bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 22
Exodus 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 23 →
1
Os lladrata un ych neu ddafad, a'i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a phedair dafad am ddafad.
2
Os ceir lleidr yn torri tŷ, a'i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano.
3
Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.
4
Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.
5
Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o'r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o'r hyn gorau yn ei winllan ei hun.
6
Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.
7
Os rhydd un i'w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a'i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:
8
Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog.
9
Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a'r hwn y barno'r swyddogion yn ei erbyn, taled i'w gymydog yn ddwbl.
10
Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:
11
Bydded llw yr ARGLWYDD rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.
12
Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i'w berchennog.
13
Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.
14
Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a'i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled.
15
Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.
16
Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.
17
Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion.
18
Na chaffed hudoles fyw.
19
Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.
20
Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i'r ARGLWYDD yn unig.
21
Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.
22
Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.
23
Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt;
24
A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a'ch plant yn amddifaid.
25
Os echwynni arian i'm pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.
26
Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:
27
Oherwydd hynny yn unig sydd i'w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.
28
Na chabla'r swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.
29
Nac oeda dalu y cyntaf o'th ffrwythau aeddfed, ac o'th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf‐anedig o'th feibion.
30
Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyda'i fam, a'r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
31
A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i'r ci.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40