bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 17
Exodus 17
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 18 →
1
A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i'r bobl i yfed.
2
Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr ARGLWYDD?
3
A'r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o'r Aifft, i'n lladd ni, a'n plant, a'n hanifeiliaid, â syched?
4
A Moses a lefodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a'm llabyddiant i.
5
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda.
6
Wele, mi a safaf o'th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo'r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel.
7
Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A ydyw yr ARGLWYDD yn ein plith, ai nid yw?
8
Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim.
9
A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen DUW yn fy llaw.
10
Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn.
11
A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.
12
A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul.
13
A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.
14
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.
15
A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi.
16
Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o'r ARGLWYDD, y bydd i'r ARGLWYDD ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40