bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 4
Exodus 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 5 →
1
A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr ARGLWYDD i ti.
2
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen.
3
Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a'i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi.
4
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:)
5
Fel y credant ymddangos i ti o ARGLWYDD DDUW eu tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob.
6
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira.
7
Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a'i tynnodd hi allan o'i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.
8
A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd.
9
A bydd, oni chredant hefyd i'r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a'i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o'r afon yn waed ar y tir sych.
10
A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.
11
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD?
12
Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda'th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
13
Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych.
14
Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th gyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.
15
Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda'th enau di, a chyda'i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.
16
A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle DUW iddo yntau.
17
Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.
18
A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.
19
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i'r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.
20
A Moses a gymerth ei wraig, a'i feibion, ac a'u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen DUW yn ei law.
21
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.
22
A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel.
23
A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.
24
A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o'r ARGLWYDD ag ef, a cheisio ei ladd ef.
25
Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.
26
A'r ARGLWYDD a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.
27
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i'r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd DUW, ac a'i cusanodd ef.
28
A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr ARGLWYDD, yr hwn a'i hanfonasai ef, a'r arwyddion a orchmynasai efe iddo.
29
A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel.
30
Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl.
31
A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o'r ARGLWYDD â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40