bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 6
Exodus 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 7 →
1
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o'i wlad.
2
DUW hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH.
3
A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw DUW Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt.
4
Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.
5
A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod.
6
Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr ARGLWYDD; a myfi a'ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a'ch rhyddhaf o'u caethiwed hwynt; ac a'ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.
7
Hefyd mi a'ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn DDUW i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid.
8
A mi a'ch dygaf chwi i'r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a'i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr ARGLWYDD.
9
A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.
10
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
11
Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o'i wlad.
12
A Moses a lefarodd gerbron yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y'm gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau?
13
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
14
Dyma eu pencenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf‐anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.
15
A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes: dyma deuluoedd Simeon.
16
Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, a Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.
17
Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd.
18
A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd.
19
Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau.
20
Ac Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.
21
A meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri.
22
A meibion Ussiel; Misael, ac Elsaffan, a Sithri.
23
Ac Aaron a gymerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
24
Meibion Cora hefyd; Assir, ac Elcana, ac Abiasaff: dyma deuluoedd y Corahiaid.
25
Ac Eleasar, mab Aaron, a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.
26
Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.
27
Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo, brenin yr Aifft, am ddwyn meibion Israel allan o'r Aifft: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.
28
A bu, ar y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn nhir yr Aifft,
29
Lefaru o'r ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.
30
A dywedodd Moses gerbron yr ARGLWYDD, Wele fi yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40