bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 40
Exodus 40
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.
3
A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia'r arch â'r wahanlen.
4
Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef.
5
Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.
6
Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.
7
Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a dod ynddi ddwfr.
8
A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.
9
A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia'r tabernacl, a'r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl lestri; a sanctaidd fydd.
10
Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a'i holl lestri; a'r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf.
11
Eneinia y noe a'i throed, a sancteiddia hi.
12
A dwg Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.
13
A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi.
14
Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.
15
Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.
16
Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; felly y gwnaeth efe.
17
Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y tabernacl.
18
A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;
19
Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
20
Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch.
21
Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
22
Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen.
23
Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
24
Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du'r deau.
25
Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
26
Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.
27
Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
28
Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.
29
Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
30
Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.
31
A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olchasant yno eu dwylo a'u traed.
32
Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
33
Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a'r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
34
Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tabernacl.
35
Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.
36
A phan gyfodai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i'w holl deithiau.
37
Ac oni chyfodai'r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai.
38
Canys cwmwl yr ARGLWYDD ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.
← Chapter 39
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40