bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 36
Exodus 36
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 37 →
1
Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD.
2
A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i'w weithio ef.
3
A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.
4
A'r holl rai celfydd, a'r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5
A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae'r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i'r gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneuthur.
6
A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy'r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy.
7
Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith i'w wneuthur, a gweddill.
8
A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.
9
Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i'r holl lenni.
10
Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd.
11
Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail.
12
Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i'r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall.
13
Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.
14
Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.
15
Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg.
16
Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain.
17
Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail.
18
Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un.
19
Ac efe a wnaeth do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.
20
Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.
21
Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.
22
Dau dyno oedd i'r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.
23
Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl; ugain ystyllen i'r tu deau, tua'r deau.
24
A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.
25
Ac i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen,
26
A'u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.
27
Ac i ystlysau'r tabernacl, tua'r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen.
28
A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau'r tabernacl i'r ddau ystlys.
29
Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.
30
Ac yr oedd wyth ystyllen; a'u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.
31
Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,
32
A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i'r ystlysau o du'r gorllewin.
33
Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy'r ystyllod o gwr i gwr.
34
Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.
35
Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.
36
Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37
Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;
38
A'i phum colofn, a'u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a'u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 37 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40