bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 9
Exodus 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 10 →
1
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
2
Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,
3
Wele, llaw yr ARGLWYDD fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.
4
A'r ARGLWYDD a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a'r sydd eiddo meibion Israel.
5
A gosododd yr ARGLWYDD amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna'r ARGLWYDD y peth hyn yn y wlad.
6
A'r ARGLWYDD a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un.
7
A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.
8
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua'r nefoedd yng ngŵydd Pharo:
9
Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft.
10
A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a'i taenodd tua'r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.
11
A'r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid.
12
A'r ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai'r ARGLWYDD wrth Moses.
13
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
14
Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.
15
Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a'th drawaf di a'th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.
16
Ac yn ddiau er mwyn hyn y'th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy'r holl ddaear.
17
A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?
18
Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o'r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.
19
Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a'r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.
20
Yr hwn a ofnodd air yr ARGLWYDD o weision Pharo, a yrrodd ei weision a'i anifeiliaid i dai;
21
A'r hwn nid ystyriodd air yr ARGLWYDD, a adawodd ei weision a'i anifeiliaid yn y maes.
22
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft.
23
A Moses a estynnodd ei wialen tua'r nefoedd: a'r ARGLWYDD a roddodd daranau a chenllysg, a'r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr ARGLWYDD genllysg ar dir yr Aifft.
24
Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
25
A'r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a'r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
26
Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.
27
A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr ARGLWYDD sydd gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol.
28
Gweddïwch ar yr ARGLWYDD (canys digon yw hyn) na byddo taranau DUW na chenllysg; a mi a'ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy.
29
A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o'r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr ARGLWYDD: a'r taranau a beidiant, a'r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr ARGLWYDD biau y ddaear.
30
Ond mi a wn nad wyt ti eto, na'th weision, yn ofni wyneb yr ARGLWYDD DDUW.
31
A'r llin a'r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a'r llin wedi hadu:
32
A'r gwenith a'r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy.
33
A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o'r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr ARGLWYDD; a'r taranau a'r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.
34
A phan welodd Pharo beidio o'r glaw, a'r cenllysg, a'r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a'i weision.
35
A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40