bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 25
Exodus 25
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 26 →
1
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm.
3
A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,
4
A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,
5
A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,
6
Olew i'r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i'r perarogl‐darth,
7
Meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.
8
A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.
9
Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.
10
A gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
11
A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.
12
Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.
13
A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur.
14
A gosod y trosolion trwy'r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.
15
Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi.
16
A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.
17
A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.
18
A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa.
19
Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a'r ceriwb arall yn y pen arall: o'r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid.
20
A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio'r drugareddfa â'u hesgyll, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: tua'r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid.
21
A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.
22
A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.
23
A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
24
A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.
25
A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.
26
A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.
27
Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.
28
A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.
29
A gwna ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i gaeadau, a'i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.
30
A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.
31
Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, a fyddant o'r un.
32
A bydd chwe chainc yn dyfod allan o'i ystlysau; tair cainc o'r canhwyllbren o un tu, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r tu arall.
33
Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o'r canhwyllbren.
34
Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a'u cnapiau a'u blodau.
35
A bydd cnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, yn ôl y chwe chainc a ddeuant o'r canhwyllbren.
36
Eu cnapiau a'u ceinciau a fyddant o'r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.
37
A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.
38
A bydded ei efeiliau a'i gafnau o aur coeth.
39
O dalent o aur coeth y gwnei ef, a'r holl lestri hyn.
40
Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40