bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 33
Exodus 33
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 34 →
1
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a'r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i'r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf hi.
2
A mi a anfonaf angel o'th flaen di; ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a'r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a'r Jebusiad:
3
I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.
4
A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano.
5
Oblegid yr ARGLWYDD a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, Pobl wargaled ydych chwi; yn ddisymwth y deuaf i fyny i'th ganol di, ac y'th ddifethaf: am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti.
6
A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb.
7
A Moses a gymerodd y babell, ac a'i lledodd o'r tu allan i'r gwersyll, ymhell oddi wrth y gwersyll; ac a'i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr ARGLWYDD, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o'r tu allan i'r gwersyll.
8
A phan aeth Moses i'r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i'r babell.
9
A phan aeth Moses i'r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses.
10
A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a'r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.
11
A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelodd i'r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o'r babell.
12
A Moses a ddywedodd wrth yr ARGLWYDD, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist, Mi a'th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.
13
Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y'th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.
14
Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystra i ti.
15
Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fyny oddi yma.
16
Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a'th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a'th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
17
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a'th adwaen wrth dy enw.
18
Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant.
19
Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr ARGLWYDD o'th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
20
Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni'm gwêl dyn, a byw.
21
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.
22
A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a'th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a'th orchuddiaf â'm llaw, nes i mi fyned heibio.
23
Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a'm tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40