bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 39
Exodus 39
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 40 →
1
Ac o'r sidan glas, a'r porffor, a'r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.
2
Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.
3
A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a'i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint.
4
Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi.
5
A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.
6
A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt.
7
A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
8
Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.
9
Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.
10
A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.
11
A'r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant.
12
A'r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.
13
A'r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.
14
A'r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth.
15
A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.
16
A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg.
17
A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau'r ddwyfronneg.
18
A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a'u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o'r tu blaen.
19
Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a'u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o'r tu mewn.
20
A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a'u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.
21
Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
22
Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith.
23
A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.
24
A gwnaethant ar odre'r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd.
25
Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre'r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau,
26
Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
27
A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i'w feibion.
28
A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd,
29
A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
30
Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.
31
A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i'w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
32
Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses; felly y gwnaethant.
33
Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a'i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a'i cholofnau, a'i morteisiau,
34
A'r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a'r to o grwyn daearfoch, a'r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio;
35
Arch y dystiolaeth, a'i throsolion, a'r drugareddfa;
36
Y bwrdd hefyd, a'i holl lestri, a'r bara dangos;
37
Y canhwyllbren pur, a'i lampau, a'r lampau i'w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i'r goleuni;
38
A'r allor aur, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell;
39
Yr allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40
Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a'i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41
Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu.
42
Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.
43
A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a'i gwnaethant megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD, felly y gwnaethent: a Moses a'u bendithiodd hwynt.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40