bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 2
Exodus 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 3 →
1
Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi.
2
A'r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.
3
A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon.
4
A'i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.
5
A merch Pharo a ddaeth i waered i'r afon i ymolchi; (a'i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu'r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i'w gyrchu ef.
6
Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu'r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.
7
Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o'r Hebreësau, fel y mago hi y bachgen i ti?
8
A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A'r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen.
9
A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A'r wraig a gymerodd y bachgen, ac a'i magodd.
10
Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a'i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses; Oherwydd (eb hi) o'r dwfr y tynnais ef.
11
A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr.
12
Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a'i cuddiodd yn y tywod.
13
Ac efe a aeth allan yr ail ddydd; ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill?
14
A dywedodd yntau, Pwy a'th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn.
15
Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.
16
Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a'r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad.
17
Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a'u gyrasant ymaith: yna y cododd Moses, ac a'u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.
18
Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted?
19
A hwy a ddywedasant, Eifftwr a'n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.
20
Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara.
21
A bu Moses fodlon i drigo gyda'r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses.
22
A hi a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad ddieithr.
23
Ac yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac a waeddasant; a'u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at DDUW, oblegid y caethiwed.
24
A DUW a glybu eu huchenaid hwynt; a DUW a gofiodd ei gyfamod ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob.
25
A DUW a edrychodd ar blant Israel; DUW hefyd a gydnabu â hwynt.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40