bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 32
Exodus 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 33 →
1
Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o'r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.
2
A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a'ch meibion, a'ch merched, a dygwch ataf fi.
3
A'r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a'u dygasant at Aaron.
4
Ac efe a'u cymerodd o'u dwylo, ac a'i lluniodd â chŷn, ac a'i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.
5
A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i'r ARGLWYDD yfory.
6
A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.
7
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft.
8
Buan y ciliasant o'r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft.
9
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.
10
Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a'th wnaf di yn genhedlaeth fawr.
11
A Moses a ymbiliodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, Paham, ARGLWYDD, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?
12
Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i'w lladd yn y mynyddoedd, ac i'w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i'th bobl.
13
Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a'r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i'ch had chwi, a hwy a'i hetifeddant byth.
14
Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i'w bobl.
15
A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o'r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o'u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu.
16
A'r llechau hynny oedd o waith DUW: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen DUW yn ysgrifenedig ar y llechau.
17
A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.
18
Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli'r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.
19
A bu, wedi dyfod ohono yn agos i'r gwersyll, iddo weled y llo a'r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o'i ddwylo ac a'u torrodd hwynt islaw y mynydd.
20
Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a'i llosgodd â thân, ac a'i malodd yn llwch, ac a'i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a'i rhoddes i'w yfed i feibion Israel.
21
A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?
22
A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.
23
Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.
24
A dywedais wrthynt, I'r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a'i rhoddasant i mi: a mi a'i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.
25
A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a'u noethasai hwynt, i'w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)
26
Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du'r ARGLWYDD? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.
27
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy'r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.
28
A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o'r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.
29
Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i'r ARGLWYDD, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.
30
A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr ARGLWYDD; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi.
31
A Moses a ddychwelodd at yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.
32
Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o'th lyfr a ysgrifennaist.
33
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i'm herbyn, hwnnw a ddileaf allan o'm llyfr.
34
Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i'r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o'th flaen di: a'r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.
35
A'r ARGLWYDD a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40