bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 37
Exodus 37
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 38 →
1
A Besaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.
2
Ac a'i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
3
Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.
4
Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
5
Ac a osododd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6
Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.
7
Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;
8
Un ceriwb ar y pen o'r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o'r tu arall: o'r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi.
9
A'r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a'u hesgyll yn gorchuddio'r drugareddfa, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau'r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10
Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.
11
Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.
12
Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.
13
Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.
14
Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.
15
Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.
16
Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i ffiolau, a'i gaeadau i gau â hwynt, o aur pur.
17
Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.
18
A chwech o geinciau yn myned allan o'i ystlysau: tair cainc o'r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r ystlys arall.
19
Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.
20
Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a'i flodau.
21
A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono.
22
Eu cnapiau a'u ceinciau oedd o'r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.
23
Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a'i efeiliau, a'i gafnau, o aur pur.
24
O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a'i holl lestri.
25
Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o'r un.
26
Ac efe a'i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
27
Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i'w dwyn arnynt.
28
Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.
29
Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a'r arogl‐darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40