bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 15
Exodus 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 16 →
1
Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r ARGLWYDD, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i'r ARGLWYDD; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchog i'r môr.
2
Fy nerth a'm cân yw yr ARGLWYDD; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy NUW, efe a ogoneddaf fi; DUW fy nhad, a mi a'i dyrchafaf ef.
3
Yr ARGLWYDD sydd ryfelwr: yr ARGLWYDD yw ei enw.
4
Efe a daflodd gerbydau Pharo a'i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.
5
Y dyfnderau a'u toesant hwy; disgynasant i'r gwaelod fel carreg.
6
Dy ddeheulaw, ARGLWYDD, sydd ardderchog o nerth; a'th ddeheulaw, ARGLWYDD, a ddrylliodd y gelyn.
7
Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.
8
Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr.
9
Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail: caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a'u difetha hwynt.
10
Ti a chwythaist â'th wynt; y môr a'u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.
11
Pwy sydd debyg i ti, O ARGLWYDD, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?
12
Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.
13
Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.
14
Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina.
15
Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.
16
Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, ARGLWYDD, nes myned o'r bobl a enillaist ti trwodd.
17
Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O ARGLWYDD, yn anheddle i ti; y cysegr, ARGLWYDD, a gadarnhaodd dy ddwylo.
18
Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth ac yn dragywydd.
19
Oherwydd meirch Pharo, a'i gerbydau, a'i farchogion, a aethant i'r môr; a'r ARGLWYDD a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.
20
A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau.
21
A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i'r ARGLWYDD; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a'r marchog i'r môr.
22
Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.
23
A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara.
24
A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?
25
Ac efe a waeddodd ar yr ARGLWYDD: a'r ARGLWYDD a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a'i bwriodd i'r dyfroedd, a'r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,
26
Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i'w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o'r clefydau a roddais ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD dy iachawdwr di.
27
A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Recommended Reading
Commentary
Exodus Commentaries
→
Devotional
Exodus Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→