bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Exodus 20
Exodus 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 21 →
1
A DUW a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,
2
Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a'th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
3
Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
4
Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear.
5
Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;
6
Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.
7
Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.
8
Cofia y dydd Saboth, i'w sancteiddio ef.
9
Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
10
Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaethferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:
11
Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth, ac a'i sancteiddiodd ef.
12
Anrhydedda dy dad a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.
13
Na ladd.
14
Na wna odineb.
15
Na ladrata.
16
Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
17
Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaethferch, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymydog.
18
A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr utgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.
19
A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared DUW wrthym, rhag i ni farw.
20
A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i'ch profi chwi y daeth DUW, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.
21
A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i'r tywyllwch, lle yr ydoedd DUW.
22
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.
23
Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24
Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a'th offrymau hedd, dy ddefaid, a'th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf.
25
Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a'i halogaist hi.
26
Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i'm hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40