bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 12
Jeremiah 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 13 →
1
Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll?
2
Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.
3
Ond ti, ARGLWYDD, a'm hadwaenost i; ti a'm gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i'r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.
4
Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a'r adar, oblegid iddynt ddywedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.
5
O rhedaist ti gyda'r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â'r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?
6
Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.
7
Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.
8
Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i'm herbyn; am hynny caseais hi.
9
Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.
10
Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.
11
Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.
12
Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy'r anialwch: canys cleddyf yr ARGLWYDD a ddifetha o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.
13
Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.
14
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â'r etifeddiaeth a berais i'm pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a'u tynnaf hwy allan o'u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o'u mysg hwynt.
15
Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i'w etifeddiaeth, a phob un i'w dir.
16
Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i'm henw, Byw yw yr ARGLWYDD, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.
17
Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a'i dinistriaf hi, medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52