bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 37
Jeremiah 37
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 38 →
1
A'r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda.
2
Ond ni wrandawodd efe, na'i weision na phobl y tir, ar eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd.
3
A'r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr ARGLWYDD ein DUW.
4
A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy.
5
A llu Pharo a ddaethai allan o'r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
6
Yna gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd,
7
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i'w wlad ei hun, i'r Aifft.
8
A'r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a'i henillant, ac a'i llosgant â thân.
9
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid nid ânt hwy.
10
Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i'ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.
11
A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo,
12
Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl.
13
A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a'i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.
14
Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a'i dygodd ef at y tywysogion.
15
Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a'i trawsant, ac a'i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
16
Pan ddaeth Jeremeia i'r daeardy, ac i'r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;
17
Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a'i cymerodd ef allan: a'r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.
18
Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i'th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y'm rhoddasoch yn y carchardy?
19
Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i'ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?
20
Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag fy marw yno.
21
Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52