bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 7
Jeremiah 7
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 8 →
1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
2
Saf di ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD.
3
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a'ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma.
4
Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt.
5
Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a'i gymydog;
6
Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a'r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i'ch niwed eich hun;
7
Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i'ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
8
Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.
9
Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;
10
Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll?
11
Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD.
12
Eithr, atolwg, ewch i'm lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel.
13
Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:
14
Am hynny y gwnaf i'r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i'r lle a roddais i chwi ac i'ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo.
15
A mi a'ch taflaf allan o'm golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.
16
Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni'th wrandawaf.
17
Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?
18
Y plant sydd yn casglu cynnud, a'r tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr, i'm digio i.
19
Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr ARGLWYDD: ai hwynt eu hun, er cywilydd i'w hwynebau eu hun?
20
Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, fy llid a'm digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.
21
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.
22
Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau:
23
Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf DDUW i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.
24
Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen.
25
O'r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd gan foregodi, ac anfon:
26
Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu clust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na'u tadau.
27
Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di.
28
Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei DUW, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o'u genau hwynt.
29
Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr ARGLWYDD a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.
30
Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr ARGLWYDD: gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i'w halogi ef.
31
A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.
32
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnom, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle.
33
A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a'u tarfo.
34
Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52