bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 49
Jeremiah 49
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 50 →
1
Am feibion Ammon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a'i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef?
2
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a'i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a'i meddianasant ef, medd yr ARGLWYDD.
3
Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwregyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a'i benaethiaid ynghyd.
4
Paham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodd yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi?
5
Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, rhag pawb o'th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o'i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad.
6
Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr ARGLWYDD.
7
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?
8
Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.
9
Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon.
10
Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a'i frodyr a'i gymdogion, ac nid yw efe.
11
Gad dy amddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.
12
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o'r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.
13
Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.
14
Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr ARGLWYDD, bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i'r rhyfel.
15
Oherwydd wele, myfi a'th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion.
16
Dy erwindeb a'th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.
17
Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a'r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
18
Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
19
Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?
20
Am hynny gwrandewch gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.
21
Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch.
22
Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.
23
Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.
24
Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a'i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a'i daliodd hi fel gwraig yn esgor.
25
Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?
26
Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a'r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd.
27
A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.
28
Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.
29
Eu lluestai a'u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a'u holl lestri, a'u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.
30
Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr ARGLWYDD: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.
31
Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr ARGLWYDD, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.
32
A'u camelod a fydd yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr ARGLWYDD.
33
Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
34
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd,
35
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.
36
A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a'u gwasgaraf hwynt tua'r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.
37
Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a'r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr ARGLWYDD; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.
38
A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a'r tywysogion, medd yr ARGLWYDD.
39
Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 48
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 50 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52