bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 8
Jeremiah 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 9 →
1
Yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o'u beddau.
2
A hwy a'u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a'r rhai a wasanaethasant, a'r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a'r rhai a geisiasant, a'r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.
3
Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o'r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.
4
Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?
5
Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd.
6
Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i'w yrfa, megis march yn rhuthro i'r frwydr.
7
Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a'r aran, a'r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr ARGLWYDD.
8
Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr ARGLWYDD sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.
9
Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr ARGLWYDD; a pha ddoethineb sydd ynddynt?
10
Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a'u meysydd i'r rhai a'u meddianno: canys o'r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o'r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.
11
Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.
12
A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD.
13
Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a'r ddeilen a syrth; a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
14
Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i'r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr ARGLWYDD ein DUW a'n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i'w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr ARGLWYDD.
15
Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.
16
O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a'r rhai sydd yn trigo ynddi.
17
Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr ARGLWYDD.
18
Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof.
19
Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y'm digiasant â'u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?
20
Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.
21
Am friw merch fy mhobl y'm briwyd i: galerais; daliodd synder fi.
22
Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52