bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 16
Jeremiah 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 17 →
1
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd,
2
Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.
3
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a'u dug hwynt, ac am eu tadau a'u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon;
4
O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a'u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.
5
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, sef trugaredd a thosturi.
6
A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.
7
Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.
8
Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.
9
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o'r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.
10
A phan ddangosech i'r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i'n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein DUW?
11
Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i'ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;
12
A chwithau a wnaethoch yn waeth na'ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;
13
Am hynny mi a'ch taflaf chwi o'r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na'ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.
14
Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft:
15
Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o'r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'w gwlad a roddais i'w tadau.
16
Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr ARGLWYDD, a hwy a'u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a'u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.
17
Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o'm gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.
18
Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a'u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â'u ffiaidd gelanedd; ie, â'u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth.
19
O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid, a'm noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i'n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt.
20
A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?
21
Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a'm grym: a chânt wybod mai yr ARGLWYDD yw fy enw.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52