bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 27
Jeremiah 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 28 →
1
Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthyf, Gwna i ti rwymau a gefynnau, a dod hwynt am dy wddf;
3
Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;
4
A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;
5
Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a'r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â'm grym mawr, ac â'm braich estynedig, ac a'u rhoddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda.
6
Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i'w wasanaethu ef.
7
A'r holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef, a'i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef.
8
Ond y genedl a'r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a'r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â'r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.
9
Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:
10
Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i'ch gyrru chwi ymhell o'ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.
11
Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a'i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr ARGLWYDD; a hwy a'i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.
12
Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a'i bobl, fel y byddoch byw.
13
Paham y byddwch feirw, ti a'th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr ARGLWYDD yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon?
14
Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi.
15
Oherwydd nid myfi a'u hanfonodd hwynt, medd yr ARGLWYDD; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a'r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi.
16
Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a'r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddywedyd, Wele, llestri tŷ yr ARGLWYDD a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi.
17
Na wrandewch arnynt; gwasanaethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch?
18
Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr ARGLWYDD gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar ARGLWYDD y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.
19
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o'r llestri a adawyd yn y ddinas hon,
20
Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem;
21
Ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, am y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem;
22
Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr ARGLWYDD: yna y dygaf hwynt i fyny, ac y dychwelaf hwynt i'r lle hwn.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52