bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 13
Jeremiah 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 14 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.
2
Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a'i dodais am fy llwynau.
3
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, gan ddywedyd,
4
Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o'r graig.
5
Felly mi a euthum, ac a'i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i mi.
6
Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno.
7
Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o'r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.
8
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
9
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru.
10
Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.
11
Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf, medd yr ARGLWYDD, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.
12
Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?
13
Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, â meddwdod.
14
Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a'r meibion ynghyd, medd yr ARGLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.
15
Clywch, a gwrandewch; na falchïwch: canys yr ARGLWYDD a lefarodd.
16
Rhoddwch ogoniant i'r ARGLWYDD eich DUW, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch.
17
Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a'm llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
18
Dywed wrth y brenin a'r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.
19
Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a'u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.
20
Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o'r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?
21
Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a'u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?
22
Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau.
23
A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg.
24
Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.
25
Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr ARGLWYDD; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.
26
Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.
27
Gwelais dy odineb a'th weryriad, brynti dy buteindra a'th ffieidd‐dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerwsalem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52