bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 36
Jeremiah 36
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 37 →
1
Ac yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,
2
Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o'r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn.
3
Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a'u pechod.
4
Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.
5
A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr ARGLWYDD.
6
Am hynny dos di, a darllen o'r llyfr a ysgrifennaist o'm genau, eiriau yr ARGLWYDD, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o'u dinasoedd, y darlleni di hwynt.
7
Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o'i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a'r digofaint a draethodd yr ARGLWYDD yn erbyn y bobl hyn.
8
Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o'r llyfr eiriau yr ARGLWYDD yn nhŷ yr ARGLWYDD.
9
Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr ARGLWYDD, i'r holl bobl yn Jerwsalem, ac i'r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.
10
Yna Baruch a ddarllenodd o'r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr ARGLWYDD, lle y clybu yr holl bobl.
11
Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr ARGLWYDD allan o'r llyfr,
12
Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a'r holl dywysogion.
13
A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.
14
Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.
15
A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a'i darllenodd lle y clywsant hwy.
16
A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda'i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i'r brenin.
17
A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o'i enau ef?
18
Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â'i enau, a minnau a'u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc.
19
Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.
20
A hwy a aethant at y brenin i'r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.
21
A'r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a'i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a'i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.
22
A'r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron.
23
A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a'i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a'i bwriodd i'r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o'r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.
24
Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na'r brenin, nac yr un o'i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.
25
Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â'r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.
26
Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr ARGLWYDD a'u cuddiodd hwynt.
27
Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, (wedi i'r brenin losgi y llyfr, a'r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,
28
Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda:
29
A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddywedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni?
30
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd: a'i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rew y nos.
31
A mi a ymwelaf ag ef, ac â'i had, ac â'i weision, am eu hanwiredd; a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i'w herbyn, ond ni wrandawsant.
32
Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a'i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau.
← Chapter 35
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 37 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52