bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 38
Jeremiah 38
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 39 →
1
Yna Seffatia mab Mattan, a Gedaleia mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geiriau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd,
2
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd.
3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a'i hennill hi.
4
Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo'r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo'r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i'r bobl hyn, ond niwed.
5
A'r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.
6
Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a'i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.
7
A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o'r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a'r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,)
8
Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd,
9
O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i'r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.
10
Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o'r daeardy cyn ei farw.
11
Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a'u gollyngodd i waered at Jeremeia i'r daeardy wrth raffau.
12
Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a'r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly.
13
Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a'i codasant ef o'r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
14
Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i'r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a'r brenin a ddywedodd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi.
15
A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf?
16
Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.
17
Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, DUW Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a'th deulu.
18
Ond onid ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y ddinas hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a'i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o'u llaw hwynt.
19
A'r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i'r rhai hynny fy ngwatwar.
20
A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a'th enaid a fydd byw.
21
Ond os gwrthodi fyned allan, dyma y gair a ddangosodd yr ARGLWYDD i mi:
22
Ac wele, yr holl wragedd, y rhai a adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babilon; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a'th hudasant, ac a'th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.
23
Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a'th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o'u llaw hwynt; canys â llaw brenin Babilon y'th ddelir; a'r ddinas hon a losgi â thân.
24
Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni'th roddir i farwolaeth.
25
Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i ni beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau:
26
Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno.
27
Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a'i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan ag ef, canys ni chafwyd clywed y peth.
28
A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy hyd y dydd yr enillwyd Jerwsalem; ac yno yr oedd efe pan enillwyd Jerwsalem.
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 39 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52