bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 3
Jeremiah 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 4 →
1
Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
2
Dyrchafa dy lygaid i'r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir â'th buteindra, ac â'th ddrygioni.
3
Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.
4
Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?
5
A ddeil efe ei ddig byth? a'i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.
6
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.
7
A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.
8
A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.
9
A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda'r maen a'r pren y puteiniodd hi.
10
Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â'i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr ARGLWYDD.
11
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Israel wrthnysig a'i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
12
Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua'r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.
13
Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr ARGLWYDD.
14
Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr ARGLWYDD; canys myfi a'ch priodais chwi: a mi a'ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a'ch dygaf chwi i Seion:
15
Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a'ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall.
16
Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr ARGLWYDD; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.
17
Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr ARGLWYDD; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr ARGLWYDD, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.
18
Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i'r tir a roddais i yn etifeddiaeth i'ch tadau chwi.
19
Ond mi a ddywedais, Pa fodd y'th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
20
Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr ARGLWYDD.
21
Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr ARGLWYDD eu DUW.
22
Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr ARGLWYDD ein DUW.
23
Diau fod yn ofer ymddiried am help o'r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr ARGLWYDD ein DUW ni.
24
Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o'n hieuenctid; eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
25
Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a'n gwarth a'n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein DUW y pechasom, nyni a'n tadau, o'n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein DUW.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52