bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 22
Jeremiah 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 23 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn;
2
A dywed, Gwrando air yr ARGLWYDD, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a'th weision, a'th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn:
3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.
4
Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a'i weision, a'i bobl.
5
Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.
6
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a'th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol.
7
Paratoaf hefyd i'th erbyn anrheithwyr, pob un â'i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a'u bwriant i'r tân.
8
A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r ddinas fawr hon?
9
Yna yr atebant, Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr ARGLWYDD eu DUW, ac addoli duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt.
10
Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth.
11
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o'r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach.
12
Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.
13
Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a'i ystafellau trwy gam; gan beri i'w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith:
14
Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion.
15
A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?
16
Efe a farnodd gŵyn y tlawd a'r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr ARGLWYDD,
17
Er hynny dy lygaid di a'th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.
18
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef!
19
 chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a'i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.
20
Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o'r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a'th garant.
21
Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o'th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais.
22
A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a'th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y'th gywilyddir, ac y'th waradwyddir am dy holl ddrygioni.
23
Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor!
24
Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno:
25
A mi a'th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.
26
Bwriaf dithau hefyd, a'th fam a'th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni'ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw.
27
Ond i'r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.
28
Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a'i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant?
29
O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr ARGLWYDD.
30
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi‐blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o'i had ef un a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52