bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 31
Jeremiah 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 32 →
1
Yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y byddaf DDUW i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi.
2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel.
3
Er ys talm yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y'th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd.
4
Myfi a'th adeiladaf eto, a thi a adeiledir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto â'th dympanau, ac a ei allan gyda'r chwaraeyddion dawns.
5
Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a'u mwynhânt yn gyffredin.
6
Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr ARGLWYDD ein DUW.
7
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O ARGLWYDD, cadw dy bobl, gweddill Israel.
8
Wele, mi a'u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a'u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a'r cloff, y feichiog a'r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma.
9
Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig.
10
Gwrandewch air yr ARGLWYDD, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a'i casgl ef, ac a'i ceidw fel bugail ei braidd.
11
Oherwydd yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, ac a'i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.
12
Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr ARGLWYDD, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a'r gwartheg: a'u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach.
13
Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a'r gwŷr ieuainc a'r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a'u diddanaf hwynt, ac a'u llawenychaf o'u tristwch.
14
A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a'm pobl a ddigonir â'm daioni, medd yr ARGLWYDD.
15
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt.
16
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Atal dy lef rhag wylo, a'th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i'th lafur, medd yr ARGLWYDD; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.
17
Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr ARGLWYDD, y dychwel dy blant i'w bro eu hun.
18
Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â'r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr ARGLWYDD fy NUW.
19
Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.
20
Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr ARGLWYDD.
21
Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua'r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.
22
Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr ARGLWYDD a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr.
23
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr ARGLWYDD a'th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.
24
Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd.
25
Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais.
26
Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf.
27
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.
28
Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr ARGLWYDD.
29
Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.
30
Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a'r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda:
32
Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr ARGLWYDD.
33
Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o'u mewn hwynt, ac a'i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.
34
Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDD: oherwydd hwynt‐hwy oll o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a'm hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechod ni chofiaf mwyach.
35
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a'r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw:
36
Os cilia y defodau hynny o'm gŵydd i, medd yr ARGLWYDD, yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd.
37
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr ARGLWYDD.
38
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr adeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananeel hyd borth y gongl.
39
A'r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath.
40
A holl ddyffryn y celaneddau, a'r lludw, a'r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua'r dwyrain, a fydd sanctaidd i'r ARGLWYDD; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52