bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 33
Jeremiah 33
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 34 →
1
Gair yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd,
2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yr hwn a'i gwnaeth, yr ARGLWYDD yr hwn a'i lluniodd i'w sicrhau, yr ARGLWYDD yw ei enw:
3
Galw arnaf, a mi a'th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost.
4
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf;
5
Y maent yn dyfod i ymladd â'r Caldeaid, ond i'w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a'm digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt.
6
Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a'u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd.
7
A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a'u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad.
8
A mi a'u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i'm herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i'm herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.
9
A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a'r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i'r ddinas hon.
10
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,)
11
Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch ARGLWYDD y lluoedd; oherwydd daionus yw yr ARGLWYDD, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr ARGLWYDD: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr ARGLWYDD.
12
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd.
13
Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD.
14
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.
15
Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir.
16
Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder.
17
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel.
18
Ac ni phalla i'r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.
19
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,
20
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser;
21
Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â'r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion.
22
Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a'r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi.
23
Hefyd, gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,
24
Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr ARGLWYDD, efe a'u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt.
25
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os fy nghyfamod â'r dydd ac â'r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a'r ddaear:
26
Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o'i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52