bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 52
Jeremiah 52
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 51
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
1
Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
2
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim.
3
Oherwydd gan ddigofaint yr ARGLWYDD y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o'i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.
4
Ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a'i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch.
5
Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r brenin Sedeceia.
6
Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o'r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad.
7
Yna y torrwyd y ddinas; a'r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.
8
Ond llu y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho.
9
Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef at frenin Babilon i Ribla yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef.
10
A brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla.
11
Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymodd ef â chadwyni: a brenin Babilon a'i harweiniodd ef i Babilon, ac a'i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth.
12
Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem;
13
Ac efe a losgodd dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân.
14
A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch.
15
Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o'r bobl wael, a'r gweddill o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a'r gweddill o'r bobl.
16
Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.
17
A'r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD, a'r ystolion, a'r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.
18
A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a'r rhawiau, a'r saltringau, a'r cawgiau, a'r thuserau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt.
19
A'r ffiolau, a'r pedyll tân, a'r cawgiau, a'r crochanau, a'r canwyllbrennau, a'r thuserau, a'r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith.
20
Y ddwy golofn, un môr, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion, y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn.
21
Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a'i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau yr oedd.
22
A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a'i phomgranadau.
23
A'r pomgranadau oeddynt, onid pedwar, cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.
24
A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw y drws.
25
Ac efe a gymerodd o'r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas.
26
A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon.
27
A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.
28
Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon.
29
Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion.
30
Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.
31
Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, Efil‐merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad, a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a'i dug ef allan o'r carchardy;
32
Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon.
33
Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes.
34
Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.
← Chapter 51
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52