bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 42
Jeremiah 42
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 43 →
1
Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a'r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,
2
Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;)
3
Fel y dangoso yr ARGLWYDD dy DDUW i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a'r peth a wnelom.
4
Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a'ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr ARGLWYDD eich DUW yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr ARGLWYDD amdanoch, myfi a'i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych.
5
A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr ARGLWYDD fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi atom ni.
6
Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein DUW.
7
Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia.
8
Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr,
9
Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef;
10
Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a'ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a'ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.
11
Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr ARGLWYDD: canys myfi a fyddaf gyda chwi i'ch achub, ac i'ch gwaredu chwi o'i law ef.
12
A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i'ch gwlad eich hun.
13
Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD eich DUW,
14
Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:
15
Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr ARGLWYDD Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i'r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,
16
Yna y bydd i'r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a'r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a'ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.
17
Felly y bydd i'r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i'r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â'r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.
18
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i'r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.
19
O gweddill Jwda, yr ARGLWYDD a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i'r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw.
20
Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich DUW, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr ARGLWYDD ein DUW, a nyni a'i gwnawn.
21
A mi a'i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW, nac ar ddim oll a'r y danfonodd efe fi atoch o'i blegid.
22
Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 43 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52