bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 50
Jeremiah 50
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 49
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 51 →
1
Y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd.
2
Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch, Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a'i delwau a ddrylliwyd.
3
Canys o'r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.
4
Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wylo yr ânt, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu DUW.
5
Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr ARGLWYDD, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir.
6
Fy mhobl a fu fel praidd colledig; eu bugeiliaid a'u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa.
7
Pawb a'r a'u cawsant a'u difasant, a'u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr ARGLWYDD, trigle cyfiawnder; sef yr ARGLWYDD, gobaith eu tadau.
8
Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlad y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd.
9
Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn; oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd; ni ddychwelant yn ofer.
10
A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a'r a'i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr ARGLWYDD.
11
Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;
12
Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a'r hon a'ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o'r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.
13
Oherwydd digofaint yr ARGLWYDD nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babilon a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
14
Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr ARGLWYDD.
15
Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi.
16
Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a'r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr y troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i'w wlad.
17
Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a'i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a'i hysodd, a'r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a'i diesgyrnodd.
18
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria.
19
A mi a ddychwelaf Israel i'w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef.
20
Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i'r rhai a weddillwyf.
21
Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn trigolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr ARGLWYDD, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti.
22
Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr.
23
Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cenhedloedd!
24
Myfi a osodais fagl i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.
25
Yr ARGLWYDD a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.
26
Deuwch yn ei herbyn o'r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi; dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.
27
Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i'r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.
28
Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein DUW ni, dial ei deml ef.
29
Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.
30
Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a'i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD.
31
Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf â thi.
32
A'r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a'i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.
33
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a'r a'u caethiwodd hwynt a'u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.
34
Eu Gwaredwr sydd gryf; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt, i beri llonydd i'r wlad, ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon.
35
Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr ARGLWYDD, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.
36
Cleddyf sydd ar y celwyddog, a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant.
37
Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar ei cherbydau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi; a hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir.
38
Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu.
39
Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.
40
Fel yr ymchwelodd DUW Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.
41
Wele, pobl a ddaw o'r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear.
42
Y bwa a'r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i'th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel.
43
Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a'i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a'i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor.
44
Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?
45
Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.
46
Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.
← Chapter 49
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 51 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52