bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 25
Jeremiah 25
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 26 →
1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon;
2
Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd,
3
Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch.
4
A'r ARGLWYDD a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a'u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed.
5
Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch tadau, byth ac yn dragywydd:
6
Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.
7
Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr ARGLWYDD, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.
8
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,
9
Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a'u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol.
10
Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt.
11
A'r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a'r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain.
12
A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a'i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.
13
Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.
14
Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.
15
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o'm llaw, a dod hi i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.
16
A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.
17
Yna mi a gymerais y ffiol o law yr ARGLWYDD, ac a'i rhoddais i'w hyfed i'r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD fi atynt:
18
I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i'w brenhinoedd, ac i'w thywysogion: i'w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw;
19
I Pharo brenin yr Aifft, ac i'w weision, ac i'w dywysogion, ac i'w holl bobl;
20
Ac i'r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod;
21
I Edom, a Moab, a meibion Ammon;
22
I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr;
23
I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o'r cyrrau eithaf;
24
Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch;
25
Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;
26
Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda'i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.
27
A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i'ch plith.
28
Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o'th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Diau yr yfwch:
29
Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd ARGLWYDD y lluoedd.
30
Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr ARGLWYDD oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.
31
Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.
32
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.
33
A lladdedigion yr ARGLWYDD a fyddant y dwthwn hwnnw o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.
34
Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a'ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol.
35
Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc.
36
Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr ARGLWYDD a anrheithiodd eu porfa hwynt.
37
A'r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr ARGLWYDD.
38
Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyfannedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52