bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 32
Jeremiah 32
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 33 →
1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor.
2
Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda.
3
Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi;
4
Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau, a'i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau;
5
Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr ARGLWYDD: er i chwi ymladd â'r Caldeaid, ni lwyddwch.
6
A Jeremeia a lefarodd, Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,
7
Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i'w brynu ef.
8
Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd wrthyf, Prŷn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; prŷn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr ARGLWYDD oedd hwn.
9
A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian.
10
A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a'i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau.
11
Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod, a'r hwn oedd yn agored.
12
A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.
13
A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd,
14
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o'r pryniad yr hwn sydd seliedig, a'r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer.
15
Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.
16
Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
17
O ARGLWYDD DDUW, wele, ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, â'th fawr allu ac â'th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.
18
Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y DUW mawr, cadarn, ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw;
19
Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd;
20
Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw, megis heddiw;
21
Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac â rhyfeddodau, ac â llaw gref, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr;
22
Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
23
A hwy a ddaethant i mewn, ac a'i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o'r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i'r holl niwed hyn ddigwydd iddynt.
24
Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i'w goresgyn hi; a'r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a'r newyn, a'r haint: a'r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a'i gweli.
25
A thi a ddywedaist wrthyf, O ARGLWYDD DDUW, Prŷn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.
26
Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,
27
Wele, myfi yw yr ARGLWYDD, DUW pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi?
28
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a'i hennill hi.
29
A'r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a'i llosgant hi, a'r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr, i'm digio i.
30
Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o'u mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr ARGLWYDD.
31
Canys i'm digofaint, ac i'm llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb:
32
Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i'm digio i, hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a'u proffwydi, a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem.
33
Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau:
34
Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i'w halogi ef.
35
A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i'w meibion a'u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.
36
Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint;
37
Wele, myfi a'u cynullaf hwynt o'r holl diroedd, y rhai yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a'u dygaf yn eu hôl i'r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel.
38
A hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau.
39
A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd, i'm hofni byth, er lles iddynt ac i'w meibion ar eu hôl.
40
A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthyf.
41
Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a'u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, â'm holl galon, ac â'm holl enaid.
42
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn, felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt.
43
A meysydd a feddiennir yn y wlad yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn nac anifail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi.
44
Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a'u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr ARGLWYDD.
← Chapter 31
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 33 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52