bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 35
Jeremiah 35
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 36 →
1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd,
2
Dos di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD, i un o'r ystafelloedd, a dod iddynt win i'w yfed.
3
Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid;
4
A mi a'u dygais hwynt i dŷ yr ARGLWYDD, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i DDUW, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws.
5
A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win.
6
Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na'ch plant, yn dragywydd:
7
Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid.
8
A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a'n merched;
9
Ac nad adeiladem i ni dai i'w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had:
10
Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni.
11
Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i'r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.
12
Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,
13
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Dos, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr ARGLWYDD.
14
Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i'w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf.
15
Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i'ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf.
16
Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi:
17
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, DUW Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant.
18
A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi:
19
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.
← Chapter 34
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 36 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52