bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 20
Jeremiah 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 21 →
1
Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;
2
Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a'i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD.
3
A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o'r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr ARGLWYDD dy enw di Pasur, ond Magor-missabib.
4
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i'r rhai oll a'th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a'th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a'u caethgluda hwynt i Babilon, ac a'u lladd hwynt â'r cleddyf.
5
Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a'i holl lafur, a phob dim a'r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a'u hanrheithiant hwynt, ac a'u cymerant, ac a'u dygant i Babilon.
6
A thithau, Pasur, a phawb a'r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y'th gleddir, ti, a'r rhai oll a'th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.
7
O ARGLWYDD, ti a'm hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar.
8
Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd.
9
Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.
10
Canys clywais ogan llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a'i mynegwn: pob dyn heddychol â mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddywedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a'i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.
11
Ond yr ARGLWYDD oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth.
12
Ond tydi, ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a'r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.
13
Cenwch i'r ARGLWYDD, moliennwch yr ARGLWYDD: canys efe a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.
14
Melltigedig fyddo y dydd y'm ganwyd arno: na fendiger y dydd y'm hesgorodd fy mam.
15
Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i'm tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr.
16
A bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd a ymchwelodd yr ARGLWYDD, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd:
17
Am na laddodd fi wrth ddyfod o'r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a'i chroth yn feichiog arnaf byth.
18
Paham y deuthum i allan o'r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52