bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 9
Jeremiah 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 10 →
1
O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a'm llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl!
2
O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid.
3
A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr ARGLWYDD.
4
Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
5
Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a'r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd.
6
Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr ARGLWYDD.
7
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?
8
Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â'i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o'i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9
Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10
Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a'r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.
11
A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau, ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.
12
Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr ARGLWYDD wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?
13
A dywedodd yr ARGLWYDD, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi;
14
Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:
15
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, Wele, mi a'u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a'u diodaf hwynt â dwfr bustl.
16
Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na'u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.
17
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,
18
A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.
19
Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y'n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i'n trigfannau ein bwrw ni allan.
20
Eto gwrandewch air yr ARGLWYDD, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i'ch merched, a galar bob un i'w gilydd.
21
Oherwydd dringodd angau i'n ffenestri, ac efe a ddaeth i'n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a'r gwŷr ieuainc o'r heolydd.
22
Dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.
23
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth;
24
Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr ARGLWYDD a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr ARGLWYDD.
25
Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â'r rhai dienwaededig;
26
A'r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â'r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a'r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52