bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 26
Jeremiah 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 27 →
1
Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Saf yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr ARGLWYDD, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air:
3
I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o'i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd.
4
A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eich bron,
5
I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandawsoch chwi;
6
Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a'r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.
7
Yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a'r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr ARGLWYDD.
8
A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a'r proffwydi, a'r holl bobl a'i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau.
9
Paham y proffwydaist yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a'r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr ARGLWYDD.
10
Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr ARGLWYDD, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr ARGLWYDD.
11
Yna yr offeiriaid a'r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Barn marwolaeth sydd ddyledus i'r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch â'ch clustiau.
12
Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas hon, yr holl eiriau a glywsoch.
13
Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW; ac fe a edifarha yr ARGLWYDD am y drwg a lefarodd efe i'ch erbyn.
14
Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn.
15
Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a'm lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirionedd yr ARGLWYDD a'm hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn.
16
Yna y tywysogion, a'r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr ARGLWYDD ein DUW y llefarodd efe wrthym.
17
Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd,
18
Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed.
19
A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr ARGLWYDD, ac oni weddïodd efe gerbron yr ARGLWYDD, fel yr edifarhaodd yr ARGLWYDD am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau.
20
Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr ARGLWYDD, Ureia mab Semaia, o Ciriath‐jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia.
21
A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a'i holl gedyrn, a'r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i'r Aifft.
22
A'r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i'r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i'r Aifft:
23
A hwy a gyrchasant Ureia allan o'r Aifft, ac a'i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a'i lladdodd ef â'r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.
24
Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i'w ladd.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52