bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 15
Jeremiah 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 16 →
1
A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o'm golwg, ac elont ymaith.
2
Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Y sawl sydd i angau, i angau; a'r sawl i'r cleddyf, i'r cleddyf; a'r sawl i'r newyn, i'r newyn; a'r sawl i gaethiwed, i gaethiwed.
3
A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr ARGLWYDD: y cleddyf, i ladd; a'r cŵn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa.
4
Ac a'u rhoddaf hwynt i'w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda, am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem.
5
Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti?
6
Ti a'm gadewaist, medd yr ARGLWYDD, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a'th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau.
7
A mi a'u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd.
8
Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi, a dychryn ar y ddinas.
9
Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i'r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD.
10
Gwae fi, fy mam, ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i'r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.
11
Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i'r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd ac yn amser cystudd.
12
A dyr haearn yr haearn o'r gogledd, a'r dur?
13
Dy gyfoeth a'th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau.
14
Gwnaf i ti fyned hefyd gyda'th elynion i dir nid adwaenost: canys tân a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.
15
Ti a wyddost, ARGLWYDD; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosof ar fy erlidwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di.
16
Dy eiriau a gaed, a mi a'u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
17
Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eisteddais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a'm llenwaist i o lid.
18
Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a'm pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?
19
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y'th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.
20
Gwnaf di hefyd i'r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni'th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i'th achub ac i'th wared, medd yr ARGLWYDD.
21
A mi a'th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a'th ryddhaf di o law yr ofnadwy.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52