bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 30
Jeremiah 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 31 →
1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
2
Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD, DUW Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr.
3
Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a'u dygaf hwynt drachefn i'r wlad a roddais i'w tadau, a hwy a'i meddiannant hi.
4
Dyma hefyd y geiriau a lefarodd yr ARGLWYDD am Israel, ac am Jwda:
5
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef dychryn a glywsom ni, ofn, ac nid heddwch.
6
Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr â'i ddwylo ar ei lwynau, fel gwraig wrth esgor, ac y trowyd yr holl wynebau yn lesni?
7
Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo: amser blinder yw hwn i Jacob; ond efe a waredir ohono.
8
Canys y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y torraf fi ei iau ef oddi ar dy war di, a mi a ddrylliaf dy rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.
9
Eithr hwy a wasanaethant yr ARGLWYDD eu DUW, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.
10
Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a'th achubaf di o bell, a'th had o dir eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a gaiff lonydd, ac ni bydd a'i dychryno.
11
Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i'th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y'th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a'th geryddaf di mewn barn, ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.
12
Oblegid fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll.
13
Nid oes a ddadleuo dy gŵyn, fel y'th iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti.
14
Dy holl gariadau a'th anghofiasant: ni cheisiant mohonot ti; canys mi a'th drewais â dyrnod gelyn, sef â chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.
15
Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o'th bechodau y gwneuthum hyn i ti.
16
Am hynny y rhai oll a'th ysant a ysir; a chwbl o'th holl elynion a ânt i gaethiwed; a'th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a'th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail.
17
Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a'th iachâf di o'th friwiau, medd yr ARGLWYDD; oblegid hwy a'th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.
18
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a'r ddinas a adeiledir ar ei charnedd, a'r llys a erys yn ôl ei arfer.
19
A moliant a â allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a'u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anaml; a mi a'u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.
20
Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a'u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf â'u holl orthrymwyr hwynt.
21
A'u pendefigion fydd ohonynt eu hun, a'u llywiawdwr a ddaw allan o'u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesáu, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesáu ataf fi? medd yr ARGLWYDD.
22
A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau.
23
Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys.
24
Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52