bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 51
Jeremiah 51
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 50
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 52 →
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i;
2
A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a'i nithiant hi, ac a wacânt ei thir hi; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder.
3
Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi.
4
Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a'r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi.
5
Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei DDUW, gan ARGLWYDD y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel.
6
Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei hun: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD; efe a dâl y pwyth iddi hi.
7
Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr ARGLWYDD, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o'i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant.
8
Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagl i'w dolur hi, i edrych a iachâ hi.
9
Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad: canys ei barn a gyrraedd i'r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau.
10
Yr ARGLWYDD a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr ARGLWYDD ein DUW.
11
Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr ARGLWYDD a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i'w dinistrio hi; canys dial yr ARGLWYDD yw hyn, dial ei deml ef.
12
Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr ARGLWYDD a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon.
13
Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd‐dod.
14
ARGLWYDD y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y'th lanwaf â dynion megis â lindys; a hwy a ganant floddest i'th erbyn.
15
Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall.
16
Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda'r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o'i drysorau.
17
Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt.
18
Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt.
19
Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw ef.
20
Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd;
21
A thi hefyd y gwasgaraf y march a'r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a'i farchog;
22
A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a'r forwyn;
23
A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a'i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a'i iau ychen; ac â thi y drylliaf y tywysogion a'r penaethiaid.
24
A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr ARGLWYDD.
25
Wele fi i'th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr ARGLWYDD; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th dreiglaf di i lawr o'r creigiau, ac a'th wnaf di yn fynydd llosg.
26
Ac ni chymerant ohonot faen congl, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr ARGLWYDD.
27
Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â'r lindys blewog.
28
Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a'i thywysogion, a'i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef.
29
Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi.
30
Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a'i barrau a dorrwyd.
31
Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o'i chwr,
32
Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr.
33
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi.
34
Nebuchodonosor brenin Babilon a'm hysodd, ac a'm hysigodd i; efe a'm gwnaeth fel llestr gwag; efe a'm llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o'm danteithion; efe a'm bwriodd i allan.
35
Y cam a wnaed i mi ac i'm cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a'm gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem.
36
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadl di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi.
37
A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb breswylydd.
38
Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod.
39
Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a'u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr ARGLWYDD.
40
Myfi a'u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod a bychod.
41
Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd!
42
Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef.
43
Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi.
44
A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o'i safn ef yr hyn a lyncodd; a'r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth.
45
Deuwch allan o'i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr ARGLWYDD,
46
A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a'r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.
47
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a'i holl wlad hi a waradwyddir, a'i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.
48
Yna y nefoedd a'r ddaear, a'r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o'r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr ARGLWYDD.
49
Fel y gwnaeth Babilon i'r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear.
50
Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr ARGLWYDD o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi.
51
Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr ARGLWYDD.
52
Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf fi â'i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan.
53
Er i Babilon ddyrchafu i'r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.
54
Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid.
55
Oherwydd yr ARGLWYDD a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o'i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt.
56
Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a'i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys ARGLWYDD DDUW y gwobr a obrwya yn sicr.
57
A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a'i doethion, ei phenaethiaid, a'i swyddogion, a'i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd.
58
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a'i huchel byrth a losgir â thân; a'r bobl a ymboenant mewn oferedd, a'r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.
59
Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd.
60
Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
61
A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn;
62
Yna dywed, O ARGLWYDD, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol.
63
A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates:
64
A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi arni: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.
← Chapter 50
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 52 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52