bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 5
Jeremiah 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 6 →
1
Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, a myfi a'i harbedaf hi.
2
Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.
3
O ARGLWYDD, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a'u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.
4
A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr ARGLWYDD, na barn eu DUW.
5
Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr ARGLWYDD, a barn eu DUW: eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.
6
Oblegid hyn llew o'r coed a'u tery hwy, blaidd o'r anialwch a'u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a'r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.
7
Pa fodd y'th arbedwn am hyn? dy blant a'm gadawsant i, ac a dyngasant i'r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.
8
Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.
9
Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10
Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi: canys nid eiddo'r ARGLWYDD ydynt.
11
Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr ARGLWYDD.
12
Celwyddog fuant yn erbyn yr ARGLWYDD, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:
13
A'r proffwydi a fuant fel gwynt, a'r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.
14
Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a'r bobl hyn yn gynnud, ac efe a'u difa hwynt.
15
Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, ac ni ddeelli beth a ddywedant.
16
Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.
17
A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a'th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a'th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a'th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a'th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â'r cleddyf.
18
Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.
19
A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein DUW hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.
20
Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd,
21
Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:
22
Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i'r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i'r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?
23
Eithr i'r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt‐hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.
24
Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn sydd yn rhoi'r glaw cynnar a'r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.
25
Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a'ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.
26
Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.
27
Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.
28
Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.
29
Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
30
Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir:
31
Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a'm pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52