bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Jeremiah 41
Jeremiah 41
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 42 →
1
Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o'r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa.
2
Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a'r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â'r cleddyf, ac a'i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad.
3
Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedaleia, ym Mispa, a'r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr.
4
A'r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod,
5
Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac â thus yn eu dwylo, i'w dwyn i dŷ yr ARGLWYDD.
6
Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i'w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam.
7
A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a'u lladdodd hwynt, ac a'u bwriodd i ganol y pydew, efe a'r gwŷr oedd gydag ef.
8
Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr.
9
A'r pydew i'r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â'r rhai a laddasid.
10
Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a'r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a'u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon.
11
Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia;
12
Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a'i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon.
13
A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant.
14
Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea.
15
Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon.
16
Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a'r gwragedd, a'r plant, a'r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe o Gibeon.
17
A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i'r Aifft,
18
Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52