bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 10
Ezekiel 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 11 →
1
Yna yr edrychais, ac wele yn y ffurfafen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid arnynt hwy.
2
Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain, ac a ddywedodd, Dos i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid.
3
A'r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a'r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn.
4
Yna y cyfododd gogoniant yr ARGLWYDD oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y tŷ; a'r tŷ a lanwyd â'r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD.
5
A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn DUW Hollalluog pan lefarai.
6
Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i'r gŵr a wisgasid â lliain, gan ddywedyd, Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion.
7
Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i'r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain: yntau a'i cymerodd, ac a aeth allan.
8
A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd.
9
Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl.
10
A'u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.
11
Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent.
12
Eu holl gnawd hefyd, a'u cefnau, a'u dwylo, a'u hadenydd, a'r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar.
13
Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn.
14
A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a'r ail wyneb yn wyneb dyn, a'r trydydd yn wyneb llew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.
15
A'r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar.
16
A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt.
17
Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.
18
Yna gogoniant yr ARGLWYDD a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid.
19
A'r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr ARGLWYDD; a gogoniant DUW Israel oedd arnynt oddi arnodd.
20
Dyma y peth byw a welais dan DDUW Israel, wrth afon Chebar: a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt.
21
Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd.
22
Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerddent bob un yn union rhag ei wyneb.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48