bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 31
Ezekiel 31
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 32 →
1
Ac yn y trydydd mis o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2
Dywed, fab dyn, wrth Pharo brenin yr Aifft, ac wrth ei liaws, I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?
3
Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn deg ei cheinciau, a'i brig yn cysgodi, ac yn uchel ei huchder, a'i brigyn oedd rhwng y tewfrig.
4
Dyfroedd a'i maethasai hi, y dyfnder a'i dyrchafasai, â'i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes.
5
Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a'i cheinciau a amlhasant, a'i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan.
6
Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi.
7
Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.
8
Y cedrwydd yng ngardd DUW ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i'w cheinciau hi, a'r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch.
9
Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd DUW, a genfigenasant wrthi hi.
10
Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder;
11
Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan.
12
A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a'i torasant hi ymaith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.
13
Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi;
14
Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
15
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Yn y dydd y disgynnodd hi i'r bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi.
16
Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll; a holl goed Eden, y dewis a'r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf.
17
Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf, a'r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.
18
I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i'r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf. Dyma Pharo a'i holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48