bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 43
Ezekiel 43
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 44 →
1
Ac efe a'm dug i'r porth, sef y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain.
2
Ac wele ogoniant DUW Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a'i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a'r ddaear yn disgleirio o'i ogoniant ef.
3
Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a'r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.
4
A gogoniant yr ARGLWYDD a ddaeth i'r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â'i wyneb tua'r dwyrain.
5
Felly yr ysbryd a'm cododd, ac a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr ARGLWYDD y tŷ.
6
Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o'r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.
7
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a'm henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na'u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd.
8
Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a'u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â'u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a'u hysais hwy yn fy llid.
9
Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.
10
Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad.
11
Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan, a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.
12
Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.
13
A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a'r lled yn gufydd, a'i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor.
14
Ac o'r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o'r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led.
15
Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o'r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn.
16
A'r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys.
17
A'r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a'r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a'i gwaelod yn gufydd o amgylch: a'i grisiau yn edrych tua'r dwyrain.
18
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni.
19
Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd DDUW, i'm gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech‐aberth.
20
A chymer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.
21
Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth, ac efe a'i llysg ef yn y lle nodedig i'r tŷ, o'r tu allan i'r cysegr.
22
Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â'r bustach.
23
Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd.
24
Ac o flaen yr ARGLWYDD yr offrymi hwynt; a'r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a'u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
25
Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o'r praidd, o rai perffaith‐gwbl.
26
Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgysegrant.
27
A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i'r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a'ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd DDUW.
← Chapter 42
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 44 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48