bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 8
Ezekiel 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 9 →
1
A bu yn y chweched flwyddyn, yn y chweched mis, ar y pumed dydd o'r mis, a mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron, syrthio o law yr ARGLWYDD DDUW arnaf yno.
2
Yna yr edrychais, ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân; o welediad ei lwynau ac isod, yn dân; ac o'i lwynau ac uchod, fel gwelediad disgleirdeb, megis lliw ambr.
3
Ac efe a estynnodd lun llaw, ac a'm cymerodd erbyn cudyn o'm pen: a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a'r nefoedd, ac a'm dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau DUW, hyd ddrws y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd.
4
Ac wele yno ogoniant DUW Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd.
5
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd. Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd; ac wele, tua'r gogledd; wrth borth yr allor, ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd.
6
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd‐dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma, i'm gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr? ac eto dychwel, cei weled ffieidd‐dra mwy.
7
Ac efe a'm dug i ddrws y cyntedd; a phan edrychais, wele dwll yn y pared.
8
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cloddia yn y pared: a phan gloddiais yn y pared, wele ddrws.
9
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos i mewn, ac edrych y ffieidd‐dra drygionus y maent hwy yn eu gwneuthur yma.
10
Felly mi a euthum, ac a edrychais; ac wele bob llun ymlusgiad, ac anifail ffiaidd, a holl eilunod tŷ Israel, wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch:
11
A dengwr a thrigain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, a Jaasaneia mab Saffan yn sefyll yn eu canol, pob un â'i thuser yn ei law; a chwmwl tew o fyctarth oedd yn dyrchafu.
12
Ac efe a ddywedodd wrthyf, a weli di, fab dyn, yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur yn y tywyllwch, bob un o fewn ei ddelw‐gelloedd? canys dywedant, Nid yw yr ARGLWYDD yn ein gweled; gadawodd yr ARGLWYDD y ddaear.
13
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Tro eto, cei weled ffieidd‐dra mwy, y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur.
14
Ac efe a'm dug i ddrws porth tŷ yr ARGLWYDD, yr hwn oedd tua'r gogledd; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus.
15
Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? dychwel eto, cei weled ffieidd‐dra mwy na hyn.
16
Ac efe a'm dug i gyntedd tŷ yr ARGLWYDD oddi fewn, ac wele wrth ddrws teml yr ARGLWYDD, rhwng y porth a'r allor, ynghylch pumwr ar hugain, a'u cefnau tuag at deml yr ARGLWYDD, a'u hwynebau tua'r dwyrain; ac yr oeddynt hwy yn ymgrymu i'r haul tua'r dwyrain.
17
Ac efe a ddywedodd wrthyf, A weli di hyn, fab dyn? ai peth ysgafn gan dŷ Jwda wneuthur y ffieidd‐dra a wnânt yma? canys llanwasant y tir â thrais, a gwrthdroesant i'm cyffroi i; ac wele hwy yn gosod blaguryn wrth eu trwyn.
18
Minnau hefyd a wnaf mewn llid: nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf: ac er iddynt lefain yn fy nghlustiau â llef uchel, ni wrandawaf hwynt.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48