bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 41
Ezekiel 41
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 42 →
1
Ac efe a'm dug i i'r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o'r naill du, ac yn chwe chufydd o led o'r tu arall, fel yr oedd lled y babell.
2
Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.
3
Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a'r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.
4
Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf.
5
Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i'r tŷ.
6
A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ.
7
Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i'r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o'r isaf i'r uchaf trwy y ganol.
8
Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion.
9
A thewder y mur yr hwn oedd i'r gell o'r tu allan, oedd bum cufydd; a'r gweddill oedd le i'r celloedd y rhai oedd o fewn.
10
A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch.
11
A drysau yr ystlysgell oedd tua'r llannerch weddill; un drws tua'r gogledd, ac un drws tua'r deau: a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch.
12
A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua'r gorllewin, oedd ddeg cufydd a thrigain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a'i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain.
13
Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a'r llannerch neilltuol, a'r adeiladaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd.
14
A lled wyneb y tŷ, a'r llannerch neilltuol tua'r dwyrain, oedd gan cufydd.
15
Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o'r tu cefn iddo, a'i ystafelloedd o'r naill du, ac o'r tu arall, yn gan cufydd, gyda'r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd.
16
Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllenasid;
17
Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.
18
A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.
19
Canys wyneb dyn oedd tua'r balmwydden o'r naill du, ac wyneb llew tua'r balmwydden o'r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch.
20
Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o'r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml.
21
Pedwar ochrog oedd pyst y deml, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall.
22
Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder, a'i hyd yn ddau gufydd: a'i chonglau, a'i huchder, a'i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr ARGLWYDD.
23
Ac yr ydoedd dau ddrws i'r deml ac i'r cysegr:
24
A dwy ddôr i'r drysau, sef dwy ddôr blygedig; dwy ddôr i'r naill ddrws, a dwy ddôr i'r llall.
25
A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o'r tu allan.
26
Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a'r trawstiau.
← Chapter 40
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 42 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48