bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 9
Ezekiel 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 10 →
1
Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais, gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu, a phob un â'i arf dinistr yn ei law.
2
Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, a phob un â'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres.
3
A gogoniant DUW Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:
4
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar dalcennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd‐dra oll a wneir yn ei chanol hi.
5
Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.
6
Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a'r forwyn, y plant hefyd, a'r gwragedd; ond na ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo'r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y tŷ.
7
Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.
8
A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O ARGLWYDD DDUW, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?
9
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd tŷ Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr ARGLWYDD y ddaear, ac nid yw yr ARGLWYDD yn gweled.
10
Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.
11
Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddywedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48