bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ezekiel 39
Ezekiel 39
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 40 →
1
Proffwyda hefyd, fab dyn, yn erbyn Gog, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen‐tywysog Mesech a Thubal.
2
A mi a'th ddychwelaf, ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a'th ddygaf i fyny o ystlysau y gogledd, ac a'th ddygaf ar fynyddoedd Israel:
3
Ac a drawaf dy fwa o'th law aswy, a gwnaf i'th saethau syrthio o'th law ddeau.
4
Ar fynyddoedd Israel y syrthi, ti a'th holl fyddinoedd, a'r bobloedd sydd gyda thi: i'r ehediaid, i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y'th roddaf i'th ddifa.
5
Ar wyneb y maes y syrthi; canys myfi a'i dywedais, medd yr Arglwydd DDUW.
6
Anfonaf hefyd dân ar Magog, ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
7
Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy: a'r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, y Sanct yn Israel.
8
Wele, efe a ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd DDUW; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais.
9
A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gyneuant ac a losgant yr arfau, a'r darian a'r astalch, y bwa a'r saethau, a'r llawffon a'r waywffon; ie, losgant hwynt yn tân saith mlynedd.
10
Ac ni ddygant goed o'r maes, ac ni thorrant ddim o'r coedydd; canys â'r arfau y cyneuant dân: a hwy a ysbeiliant eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd DDUW.
11
Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog le bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon‐gog.
12
A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir.
13
Ie, holl bobl y tir a'u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y'm gogonedder, medd yr Arglwydd DDUW.
14
A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.
15
A'r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog.
16
Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhânt y wlad.
17
Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed.
18
Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, ŵyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oll.
19
Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o'm haberth a aberthais i chwi.
20
Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd DDUW.
21
A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.
22
A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt o'r dydd hwnnw allan.
23
Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf.
24
Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.
25
Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd;
26
Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a'u holl gamweddau a wnaethant i'm herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd.
27
Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a'u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y'm sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer;
28
Yna y cânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, yr hwn a'u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a'u cesglais hwynt i'w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno.
29
Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48